18. Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,rhag angau enaid adyn:Ac i borthi y tlawd yn glau,rhag eisiau, a rhag newyn.
19. Ein henaid gan yr Arglwydd hael,sy’n disgwyl cael ei bywyd:Efe a byrth ein henaid gwan,efe yw’n tarian hefyd.
20. Sef yn unig yn Nuw yr Ion,mae’n calon yn llawenu:Ac yn ei Enw sanctaidd ef,mae hon yn gref yn credu.
21. Duw dy drugaredd dod i nisef ynot ti y credwn:Dy drugaredd a’th nawdd i’n dod,Cans ynod ymddiriedwn.