Hen Destament

Salm 33:15-18 Salmau Cân 1621 (SC)

15. Ac ni chedwir un bydol gun,o’i nerth ei hun na’i luoedd.

16. A pheth palledig ydyw march,i gael parch ac ymwared:Ac ni all achub o law’r Ner,mo’i farchog er ei gryfed.

17. Wele lawn olwg Duw, a’i wawl,maent ar y sawl a’i hofno:A'i drugaredd ef sydd ar lled,i’r sawl a ’mddiried yntho.

18. Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,rhag angau enaid adyn:Ac i borthi y tlawd yn glau,rhag eisiau, a rhag newyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 33