1. Pa rai bynnag, yn Nuw yr Ion,sy gyfion, llawenychwch:I bawb ysydd yn iawn yn bywgweddus yw diolchgarwch.
2. A thannau telyn molwch ef,rhowch hyd y nef ogoniant:Ar y nabyl gywair ei thon,ac ar y gyson ddectant.
3. Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,wiw gerdd o ganiad newydd:Cenwch iddo yn llafar glod,bid parod eich lleferydd.
4. Am mai union ydyw ei air,ffyddlon y cair ei weithred.