Hen Destament

Salm 32:1-12 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Y sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,drwy fadde’i gyd ei drosedd,Ac y cysgodwyd ei holl fai,a’i bechod, a’i anwiredd.

2. A’r dyn (a gwnfyd Duw a’i llwydd)ni chyfri’r Arglwydd iddoMo’i gamweddau: yw hwn ni châddim twyll dichellfrâd yntho.

3. Minnau, tra celwn i fy mai,yn hen yr ai ’mhibellion:A thrwy fy rhuad i bob dydd,cystuddio y bydd fy nghalon.

4. Dy law dithau, y dydd a’r nos,sydd drom drwy achos arnaf:Troi ireidd-dra fy esgyrn merfel sychder y gorphennaf.

5. Yna y trois innau ar gais,addefais fy anwiredd:

6. Tyst yn fy erbyn fy hun fum,maddeuaist y’m fy nghamwedd,

7. Amserol weddiau am hyn,a rydd pob glanddyn arnad:Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,na chaer mo’r daith hyd attad.

8. Rhyw loches gadarn wyd i mi,rhag ing i’m cedwi’n ffyddlon:Amgylchyni fy fi ar led,â cherdd ymwared gyson.

9. Dithau (o ddyn) dysg geni fiy ffordd y rhodi’n wastad,Mi a’th gynghoraf di rhag drwg,y mae fy ngolwg arnad.

10. Fel y march neu y ful na fydd,y rhai y sydd heb ddeall:Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,i ddal eu pen yn wastad:

11. Caiff annuwolion, a wnant gam,fawr ofid am eu traha:A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,trugaredd a’i cylchyna.

12. Chwithau’r cyfion yn dirion ewch,a llawenhewch yn hylwydd:A phob calon sydd union syth,clodforwch fyth yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 32