Hen Destament

Salm 31:5-23 Salmau Cân 1621 (SC)

5. A thynn fy fi o’r rhwyd i’r lann,a roesan er fy maglu:Cans fy holl nerth sydd ynot ti,da gelli fy ngwaredu.

6. Dodaf fy yspryd yn dy law,ac âf gar llaw i orwedd,Da y gwaredaist fi yn fyw:(o Arglwydd Dduw’r gwirionedd)

7. Llwyr y caseis y neb a fâg,iw galon orwag aflwydd,Ac mi a osodais yn llwyr faithfy ngobaith yn yr Arglwydd.

8. Mi a ’mhyfrydaf ynot ti,canfuost fi mewn amser,Ac adnabuost, wrth fy rhaid,fy enaid mewn cyfyngder.

9. Llawen fyddaf finnau am hyn,i’m gelyn ni’m gwarcheaist:Eithr fy nrhaed i yn eang ryddda beunydd y sefydlaist.

10. O dangos dy drugaredd Dduw,cans cyfyng ydyw arnaf,Fy llygaid, f’enaid, a’m bol syddyn dioddef cystydd gwaelaf.

11. Fy mywyd ym’ gwir ofid oedd,fy holl flynyddoedd, blinion,

12. Fy nerth a ballodd o’m drwg cynt,a’m esgyrn ydynt bydron.

13. A gwatwor im’ gelynion wyf,fy nghydblwyf a’m gwatworent:Fy holl gym’dogion, a phob dyn,gan ddychryn a’m gochelent.

14. Fe a’m gollyngwyd ’i dros gof,fal marw a fo esgeulus:A hawdd yw hepgor y llestr hwn,o byddi hwn drwgflasus.

15. Cans clywais ogan llawer dyno’m dautu, dychryn oerloes:Hwy a ’mgynghorent a’r bob twyn,bwriadent ddwyn fy einioes.

16. Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)y dwedais fy Nuw ydwyd,Y mae f’amseroedd a’r dy law,nid oes na braw nac arswyd.

17. Dyred a gwared fi dy wâs,oddiwrth fy nghâs a’m herlid.

18. A dangos d’wyneb ym’ oth râd,rhag brâd y rhai sy’m hymlid.

19. O Arglwydd, na wradwydder fia rois fy ngweddi arnad:Ond i’r annuwiol gwarth a wedd,yn fud i’r bedd o lygriad.

20. Cae gelwyddog wefusau y rhai’ny sydd yn darstain crasder,O ddiystyrwch, a thor tynn,yn erbyn y cyfiawnder.

21. O mor fawr yw dy râd di-drai,a roist i’r rhai a’th ofnant!Cai o flaen meibion dynion glod,ac ynod ymddiriedant.

22. Oddiwrth sythfeilchion (o’th flaen di)y cuddi hwynt yn ddirgel:Cuddi yn dda i’r babell daurhag senn tafodau uchel.

23. Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:dangosawdd y’m ei gariad:A gwnaeth ryfeddod dros ei was,mewn cadarn ddinas gaead.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 31