Hen Destament

Salm 31:4-16 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Sef fy nghraig wyd, a’m castell cryf,wyf finnau hyf o’th fowredd.Er mwyn dy enw tywys fi,ac arwain i drugaredd.

5. A thynn fy fi o’r rhwyd i’r lann,a roesan er fy maglu:Cans fy holl nerth sydd ynot ti,da gelli fy ngwaredu.

6. Dodaf fy yspryd yn dy law,ac âf gar llaw i orwedd,Da y gwaredaist fi yn fyw:(o Arglwydd Dduw’r gwirionedd)

7. Llwyr y caseis y neb a fâg,iw galon orwag aflwydd,Ac mi a osodais yn llwyr faithfy ngobaith yn yr Arglwydd.

8. Mi a ’mhyfrydaf ynot ti,canfuost fi mewn amser,Ac adnabuost, wrth fy rhaid,fy enaid mewn cyfyngder.

9. Llawen fyddaf finnau am hyn,i’m gelyn ni’m gwarcheaist:Eithr fy nrhaed i yn eang ryddda beunydd y sefydlaist.

10. O dangos dy drugaredd Dduw,cans cyfyng ydyw arnaf,Fy llygaid, f’enaid, a’m bol syddyn dioddef cystydd gwaelaf.

11. Fy mywyd ym’ gwir ofid oedd,fy holl flynyddoedd, blinion,

12. Fy nerth a ballodd o’m drwg cynt,a’m esgyrn ydynt bydron.

13. A gwatwor im’ gelynion wyf,fy nghydblwyf a’m gwatworent:Fy holl gym’dogion, a phob dyn,gan ddychryn a’m gochelent.

14. Fe a’m gollyngwyd ’i dros gof,fal marw a fo esgeulus:A hawdd yw hepgor y llestr hwn,o byddi hwn drwgflasus.

15. Cans clywais ogan llawer dyno’m dautu, dychryn oerloes:Hwy a ’mgynghorent a’r bob twyn,bwriadent ddwyn fy einioes.

16. Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)y dwedais fy Nuw ydwyd,Y mae f’amseroedd a’r dy law,nid oes na braw nac arswyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 31