7. Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,a blinder mawr a gefais.
8. Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,fy Arglwydd, i’r ymbiliais.
9. Pa fudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,pan rwyf dan draed yn gorwedd?A phwy a gân yt’ yn y llawr,dy glod a’th fawr wirionedd?
10. Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,dod gymorth da i’m bywyd,
11. Canys yn rhâd y troist fy mâr,a’m galar, yn llawenfyd:Am ytty ddattod fy sâch grys,rhoist wregys o lawenydd:
12. Molaf a chanaf â’m tafod,i’m Arglwydd glod dragywydd.