1. F’Arglwydd mi a’th fawrygaf di,cans myfi a ddyrchefaist,A’m gelynion i yn llawenuwchlaw fy mhen ni pheraist.
2. Fy Nuw, pan lefais arnat tiy rhoddaist i mi iechyd,
3. Cedwaist fy enaid rhag y bedd,a rhag diwedd anhyfryd.
4. Cenwch i’r Ion chwi ei holl saint,a maint yw gwyrthiau’r Arglwydd:A chlodforwch ef gar ei fron:drwy gofion o’i sancteiddrwydd.
5. Ennyd fechan y sai’n ei ddig,o gael ei fodd trig bywyd:Heno brydnawn wylofain fydd,y borau ddydd daw iechyd.
6. Dywedais yn fy llwyddiant hir,nim’ syflir yn dragywydd:O’th ddaioni dodaist, Dduw Ner,sail cryfder yn fy mynydd.