1. O Arglwydd, amled ydyw’r gwyr,y sydd drallodwyr imi:A llawer iawn i’m herbyn sydd,o ddydd i ddydd yn codi.
2. Dwedai lawer o’r gwrthgyrch blaidyn drwm am f’enaid eisoes:Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,chwaith mawr ystor o’r einiois.
3. Tithau O Arglwydd ymhob man,ydwyd yn darian ymy:Fy ngogoniant wyt: tu a’r nen,y codi ’ymhen i fyny,
4. Ar Dduw yr Arglwydd a’m holl lais,y gelwais yn dosturaidd.Ac ef a’m clybu i ar frys,o’i uchel freinllys sanctaidd.