Hen Destament

Salm 27:9-14 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,fy mhorth a’m urddas fuost:Duw fy iechyd na wrthod fi,o paid a sorri’n rhydost.

10. O gwrthyd fi fy nhâd a’m mama’m dinam gyfneseifiaid:Gweddia’r Arglwydd, ef er hyno’i râs a derbyn f’enaid.

11. Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,oherwydd fy ngelynion,Ac arwain fi o’th nawddol râdyn wastad ar yr union.

12. Ac na ddyro fi, er dy râs,wrth fodd yr atcas elyn,Cans ceisiodd fy’nghaseion maudystion gau yn fy erbyn.

13. Oni bai gredu honof fi,bum wrth fron torri ’nghalon,Y cawn i weld da Duw’n rhâdo fewn gwlâd y rhai bywion.

14. Disgwyl di ar yr Arglwydd da,ymwrola dy galon:Ef a rydd nerth i’th galon di,os iddo credi’n ffyddlon.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 27