Hen Destament

Salm 27:2-9 Salmau Cân 1621 (SC)

2. Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,o’m cwmpas er fy llyngcu,Llithrasant a chwympasant hwy,ni ddaethant mwy i fynu.

3. Ni ddoe ofn ar fy nghalon gu,pe cyrchai llu i’m herbyn,Neu pe codai gâd y modd hwn,mi ni wanffyddiwn ronyn.

4. Un arch a erchais ar Dduw nâf,a hynny a archaf etto:Cael dyfod i dy’r Arglwydd glân,a bod a’m trigfan ynddo.I gael ymweled a’i Deml deg,a hyfryd osteg ynthiHoll ddyddiau f’einioes: sef wyf gaetho fawr hiraeth amdani.

5. Cans y dydd drwg fo’m cudd efeiw Babell neu ddirgelfa:Iw breswylfod, fel mewn craig gref,caf gantho ef orphwysfa.

6. Bellach fo’m codir uwch fy nghâs,sydd mewn galanas ymy:Aberthaf, caraf, mola’r Ionyn ffyddlon byth am hynny.

7. Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,bryssia a chlyw fy oernad:Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,y pryd y galwyf arnad.

8. Fel hyn mae ’nghalon o’m mewn iyn holi ac yn atteb,Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:fy Nuw rwy’n ceisio d’wyneb.

9. Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,fy mhorth a’m urddas fuost:Duw fy iechyd na wrthod fi,o paid a sorri’n rhydost.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 27