Hen Destament

Salm 24:1-10 Salmau Cân 1621 (SC)

1. Yr Arglwydd piau’r ddaiar lawr,a’i llownder mawr sy’n eiddo:Yr Arglwydd biau yr holl fyd,a’r bobl i gyd sydd ynddo.

2. Cans fo roes ei sail hi a’i gweddyn rhyfedd uwch y moroedd:Ac a’i gosododd hi yn lânyn drigfan uwch llif-ddyfroedd.

3. Er hyn: pwy a ddringa yn hyi gyssegr fry yr Arglwydd?A phwy a saif, a theilwng wedd,yngorsedd ei sancteiddrwydd?

4. Dyn a llaw lân, a meddwl da,ac yn ddidraha ei enaid,Diorwag, ac ni roes un troer twyllo’i gyfneseifiaid.

5. Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlithei raslawn fendith helaeth,A chyfiawnder i bob cyfrywgan Dduw yr iechydwriaeth.

6. Hon sy gan Dduw’n genhedlaeth gref,a’i ceisiant ef yn effro,A geisiant d’wyneb, dyma eu maeth,sef gwir genhedlaeth Iago.

7. Derchefwch chwi byrth eich pennau,a chwithau ddorau bythol,Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,sef pen bri gogoneddol.

8. Pwy yw’r brenin hwn gogonedd?Arglwydd rhyfedd ei allu:Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,a chadarn i ryfelu.

9. Derchefwch chwi byrth ych pennau,ehengwch ddorau bythol:Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,teyrn o fri gogonol.

10. Pwy meddwch ydyw’r brenin hwn,a gofiwn ei ogoniant?Ior y lluoedd yw, brenin hedd,a gogonedd, a ffyniant.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 24