1. O Arglwydd, yn dy nerth a’th rin,mae’r brenin mewn llawenydd:Ac yn dy iechyd, yr un wedd,mae ei orfoledd beunydd.
2. Holl ddeisyfiad ei galon lân,iddo yn gyfan dodaist:Cael pob dymuniad wrth ei fodd,ac o un rhodd ni phellaist.
3. Cans da’r achubaist ei flaen ef,a doniau nef yn gyntaf:Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)rhoist goron aur o’r puraf.
4. Ef a ofynnodd gennyd oes,a rhoddaist hiroes iddo:A hon dy rodd, dros byth y bydd,nid a’n dragywydd heibio.
5. I’th iechydwriaeth y mae’n byw,a mawr yw ei ogoniant:Gosodaist arno barch a nerth,a phrydferth yw ei llwyddiant.
6. Rhoist dy fendithion uwch pob tawl,yn rhodd dragwyddawl iddo:A llewych d’wyneb byth a fydd,yn fawr lawenydd arno.