1. Gwrandawed di yr Arglwydd Nerpan ddel cyfyngder arnad,Enw Duw Jacob, ein Duw ni,a’th gadwo di yn wastad.
2. O’i gysegr rhoed yt help a nerth,a braich o brydferth Seion:
3. Cofied dy offrwm poeth a’th rodd,bo’rhai’n wrth fodd ei galon.
4. Rhoed ytty wrth dy fodd dy hun,Dy ddymun a’th adduned:Dy fwriad iach a’th arfaeth tau,a’th weddiau gwrandawed.
5. Yn enw ein Duw gorfoleddwnyn hyf, a chodwn faner:A’th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,yr Arglwydd o’r uchelder.