Hen Destament

Salm 18:8-12 Salmau Cân 1621 (SC)

8. O’i enau tan o’i ffroenau tarth,yn nynnu pobparth wybren:

9. A chan gymylu dan ei draed,du y gwnaed y ffurfafen.

10. Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,uwch Cherubyn yn hedeg:Ac uwch law adenydd y gwynt,Mewn nefol helynt hoywdeg.

11. Mewn dyfroedd a chymylau fry,mae’ i wely heb ei weled.

12. Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,a marwor tân i wared.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 18