7. Pan ddigiodd Duw, daeth daeargryn,a sail pob bryn a siglodd:A chyffro drwy’r wlad ar ei hyd,a’r hollfyd a gynhyrfodd.
8. O’i enau tan o’i ffroenau tarth,yn nynnu pobparth wybren:
9. A chan gymylu dan ei draed,du y gwnaed y ffurfafen.
10. Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,uwch Cherubyn yn hedeg:Ac uwch law adenydd y gwynt,Mewn nefol helynt hoywdeg.
11. Mewn dyfroedd a chymylau fry,mae’ i wely heb ei weled.
12. Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,a marwor tân i wared.