Hen Destament

Salm 18:36-50 Salmau Cân 1621 (SC)

36. Ehengaist ymy lwybrau teg,i redeg buan gamrau:Nid oes ynof un cymal gwan,ni weggian fy mynyglau.

37. Erlidiais i fy nghas yn llym,a daethym iw goddiwedd:Ac ni throis un cam i’m hol mwynes eu bod hwy’n gelanedd.

38. Gwnaethym arnynt archollion hyllfel sefyll nas gallasant:Ond trwy amarch iw cig, a’i gwaed,i lawr dan draed syrthiasant.

39. Gwregysaist fi a gwregys nerth,at wres ac angerth rhyfel:A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,a gwympaist di’n ddiogel.

40. Fal hyn y gwnaethost imi gauar warrau fy ngelynion:A’m holl gas a ddifethais i,rhois hwynt i weiddi digon.

41. Ac er gweiddi drwy gydol dyddni ddoe achubydd attynt,Er galw’r Arglwydd:ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.

42. Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,fal dyna helynt efrydd:Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,fel pridd neu dom heolydd.

43. Gwaredaist fi o law fy nghas,rhoist bawb o’m cwmpas danaf:Doe rai ni welsent fi erioeda llaw, a throed, hyd attaf.

44. Addaw ufydd-dod, ond fo gaidgan blant estroniaid gelwydd:

45. A phlant estroniaid twyll a wnant,ond crynant iw stafellydd

46. Eithr byw yw yr Arglwydd ar fy mhlaid,fy nghraig fendigaid hefyd,Derchafer Duw: yntho ef trigfy nerth a’m unig Iechyd.

47. Fy Nuw tra fo a’i nerth i’m dal,rhoi dial hawdd y gallaf.A rholi pobloedd: cans efosydd yn eu twyso attaf.

48. Fy ngwaredydd, a’m derchafydd,o chyfyd rhai i’m herbyn,Wyt ti o Dduw: a’m dug ar gaisrhag drwg a thrais y gelyn.

49. Am hyn canmolaf di yn rhwyddo Arglwydd, Dduw y lluoedd:Canaf dy glod: o hyn fydd dysg,ymysg yr holl genhedloedd.

50. Duw sydd yn gwneuthyr (o’i fawr rad)fawrhad i frenin Dafydd,Ac iw eneiniog ei wellad,Ac iw had yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 18