31. Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,pwy ond yr Arglwydd nefol?A phwy sydd graig onid ein Duw?sef, disigl yw’n dragwyddol.
32. Duw a’m gwregysodd i a nerth,a rhoes ym brydferth lwybrau.
33. Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,gorseddfa’r uchelfannau.
34. Efe sy’n dysgu rhyfel ym’gan roi grym i’m pawennau:Fel y torrir bwa o dduryn brysur rhwng fy mreichiau.
35. Daeth o’th ddaioni hyn i gyd,rhoist darian iechyd ymy:A’th law ddeau yr wyd im’ dwyn,o’th swynder yr wy’n tyfy.
36. Ehengaist ymy lwybrau teg,i redeg buan gamrau:Nid oes ynof un cymal gwan,ni weggian fy mynyglau.
37. Erlidiais i fy nghas yn llym,a daethym iw goddiwedd:Ac ni throis un cam i’m hol mwynes eu bod hwy’n gelanedd.
38. Gwnaethym arnynt archollion hyllfel sefyll nas gallasant:Ond trwy amarch iw cig, a’i gwaed,i lawr dan draed syrthiasant.
39. Gwregysaist fi a gwregys nerth,at wres ac angerth rhyfel:A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,a gwympaist di’n ddiogel.
40. Fal hyn y gwnaethost imi gauar warrau fy ngelynion:A’m holl gas a ddifethais i,rhois hwynt i weiddi digon.
41. Ac er gweiddi drwy gydol dyddni ddoe achubydd attynt,Er galw’r Arglwydd:ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.
42. Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,fal dyna helynt efrydd:Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,fel pridd neu dom heolydd.
43. Gwaredaist fi o law fy nghas,rhoist bawb o’m cwmpas danaf:Doe rai ni welsent fi erioeda llaw, a throed, hyd attaf.