Hen Destament

Salm 18:20-33 Salmau Cân 1621 (SC)

20. Yr Arglwydd am gobrwya’n ol,fy ngwastadol gyfiownder:Ac yn ol gwendid fy nwy law,tal i’m a ddaw mewn amser.

21. Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,ni wneuthym hyder ormod,Na dim sceler erbyn fy Nuw,gochelais gyfryw bechod.

22. Cans ei ddeddfau, maen ger fy mrona’i hollawl gyfion farnau:Ac ni rois heibio’r un or rhai’n,hwy ynt fynghoelfain innau.

23. Bum berffaith hefyd o’i flaen, acymgedwais rhag byw’n rhyddrwg:

24. A’r Arglwydd gobrwyodd fi’n llawnyr hyn fu’n iawn iw olwg.

25. I’r trugarog trugaredd rhoi,i’r perffaith troi berffeithrwydd:

26. A’r glan gwnei lendid, ac i’r tyn,y byddi gyndyn Arglwydd.

27. Cans mawr yw dy drugaredd di,gwaredi’r truan tawel:Ac a ostyngi gar dy fron,rai a golygon uchel.

28. Ti a oleui’ nghanwyll i,am hynny ti a garaf,Tydi a droi fy nos yn ddydd,a’m tywyll fydd goleuaf.

29. Oblegid ynot ti, fy Naf,y torraf trwy y fyddin:Ie yn fy Nuw y neidia’n llwyr,be tros y fagwyr feinin.

30. Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,a’i air ef fydd buredig:Ac i bob dyn yntho a gredMae’n fwccled bendigedig.

31. Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,pwy ond yr Arglwydd nefol?A phwy sydd graig onid ein Duw?sef, disigl yw’n dragwyddol.

32. Duw a’m gwregysodd i a nerth,a rhoes ym brydferth lwybrau.

33. Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,gorseddfa’r uchelfannau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 18