13. Gyrrodd daranau, dyna’i lef,gyrrodd o’r nef gennadon.
14. Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,fal dyna’i saethau poethion.
15. Distrywiwyd dy gas: felly gyntgan chwythiad gwynt o’th enau:Gwasgeraist di y moroedd mawr,gwelwyd y llawr yn olau.
16. Felly gwnaeth Duw a mi’r un moddanfonodd o’r uchelder,Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oeddi’m hamgylch ddyfroedd lawer.
17. Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,o ddiwrth fy ngelyn cadarn:Yn rhydrwm imi am ei fod,rhof finnau glod hyd dyddfarn.
18. Safent o’m blaen ni chawn ffordd ryddtra fum yn nydd fy ngofid:Ond yr Arglwydd ef oedd i’m dal,a’m cynal yn fy ngwendid.