Hen Destament

Salm 17:9-15 Salmau Cân 1621 (SC)

9. Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,a rhag fy nghyfrwys elyn,Y rhai a gais fy enaid i,gan godi yn fy erbyn.

10. Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,ac yn rhy gâs eu geiriau:Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,gan falched eu parablau.

11. Maent hwy yn amgylchu yn fliny lle ym ni’n cyniwer,Ac â’i golygon tua’r llawrmewn gwg a thramawr hyder.

12. Maent hwy fel llew, dan godi gwrych,a fai’n chwennych ysglyfaeth:Neu fel llew ifangc (er i les)a geisiai loches hyfaeth.

13. Cyfod Arglwydd, o’i flaen ef saf,dy help a gaf i’m henaid,A tharo’i lawr â’th gleddyf noethyr enwir fflamboeth tanbaid.

14. Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,sy’ ai rhan i gyd oddiymma,Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plantyn fawr eu chwant a’i traha.

15. Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,a welaf lun d’wynebpryd,A phan ddihunwyf o’r hun hony byddaf ddigon hyfryd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 17