1. O clyw gyfiownder Arglwydd mâd,ystyr fy nâd i’th grybwyll,Clust ymwrando a’r weddi fausydd o wefusau didwyll.
2. Disgwilia’ marn oddiwrthyt ti,cans da y gweli’r union:Profaist a gwyddost ganol nosmor ddiddos ydyw ’nghalon.
3. Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)ni chefaist ynof gamwedd,Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,na ddoed ymaes o’m dannedd.