Hen Destament

Salm 147:12-20 Salmau Cân 1621 (SC)

12. O Caersalem gyfiawn o lwydd,molianna’r Arglwydd eiddod:O Seion sanctaidd, dod un weddi’th Dduw glodforedd barod.

13. Herwydd yr Arglwydd â’i fawr wyrtha wnaeth dy byrth yn gryfion:A rhoes ei fendith, a thycciant,ymlhith dy blant a’th wyrion.

14. Hwn a roes heddwch yn dy fro,fel y cynnyddo llwyddiant,Ac a ddiwallodd yn eich plith,o frasder gwenith, borthiant.

15. Ei orchymyn ef a ddenfyn,o’i ddown-fawr air cymhesur,Hwn ar y ddaiar â ar led,ac yno rhed yn brysur.

16. Eirch i’r eira disgyn fel gwlân:eirch rew, fe’i tân fel lludw,

17. Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri,pwy’ erys oerni hwnnw?

18. Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,fe bair i’r gwynt ochneidioI doddi’r rhai’n, ac felly byddi’r holl afonydd lifo.

19. Grym ei air, a’i ddehaulaw gref,a ddengys ef i Jaco:A’i ffydd a’i farn i Israel,a’r rhai a ddel o hono.

20. Ni wnaeth efe yn y dull hwn,â neb rhyw nassiwn arall;Ni wyddent farnu’r Arglwydd nef.O molwch ef yn ddiball.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 147