Hen Destament

Salm 145:10-21 Salmau Cân 1621 (SC)

10. Dy holl weithredoedd di i’th lwydd,o Arglwydd a’th glodforant:Dy wyrth pan welo dy Sainct di,y rhei’ni a’th fendithiant.

11. Gan son am drugaredd a grâsdy dyrnas, a’i chadernyd:Fal dyna’r gerdd sydd yn parhau,yn eu geneuau hyfryd.

12. Fel y parent drwy hyfryd glod,gydnabod a’th dyrnasiad:A’th nerth ym mysg holl ddynol blant,a’th lawn ogoniant gwastad.

13. Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,a bery yn wastadol:A’th lywodraeth o oed i oed,hon a roed yn dragwyddol.

14. Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,y rhai sy ’mron eu cwympod.Ac ef a gyfyd bawb yn wir,ar a ostyngir isod.

15. Wele, mae llygaid yr holl fydyn disgwyl wrthyd Arglwydd,Dithau a’i porthi hwynt i gyd,bawb yn ei bryd yn ebrwydd.

16. A phan agorech di dy law,o honni daw diwall-faeth:D’ewylls da yw ymborth byw,a hynny yw eu llyniaeth.

17. Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt,a’i wrthiau ydynt sanctaidd:

18. Agos iawn i bawb ydyw fo,a eilw arno’n buraidd.

19. Sef ar y gwyr a’i hofnant ef,fo glyw eu llef iw gwared,Fo rydd eu ’wyllys hwynt a’i barch,o’i wir-barch, Ion gogoned.

20. Pob dyn a garo’r Arglwydd nef,caiff gantho ef ei ’mddiffyn:A chan difetha rhydd oes ferr,i bob ysceler cyndyn.

21. Fy enaid traethed fendith rhwydd,a mawl yr Arglwydd nefol:A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,ogoniant yn dragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 145