3. Fel colyn sarph yn llithrig wau,yw eu tafodau llymion:Gwenwyn yr Asp sydd yn parhaudan eu gwefusau creulon.
4. Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,sy’n myfyr lliaws faglau,Duw gwared fi, rhag gosod brâd,ynghylch fy ngwastad lwybrau.
5. Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,wrth hon gosodwyd tannau:Ar draws fy ffyrdd i ddal fy ’nrhoed,ynghudd, y rhoed llinynnau.
6. Dwedais wrth f’Arglwydd fy Nuw wyd,tyn fi o’i rhwyd a’i maglau:O gwrando’n fuan f’Arglwydd nef,ar brudd lef fy ngweddiau.
7. Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,a’m coel a’m iechyd calon:Ti a roist gudd tros fy mhen mau,yn nydd yr arfau gloywon.