Hen Destament

Salm 138:4-8 Salmau Cân 1621 (SC)

4. Doed brenhinoedd y ddaiar hon,a rhoen yt union foliant:Addolent oll ein gwir-dduw ni,cans d’eiriau di a glywsant.

5. Yn ffyrdd yr Arglwydd yr un wedd,ac am ei fowredd canant:Gan ddangos drwy’r holl fyd ei fraint,a maint yw ei ogoniant.

6. Uchel yw’r Ion, etto fe welyr ufydd isel ddynion:A gwyl o hirbell, er eu plau,y beilch a’r gwarrau sythion.

7. Pe bai yn gyfyng arna’r byd,ti a’m bywheyd eilwaith:Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâsoddiwrth rai atcas ymaith.

8. Yr Arglwydd a gyflowna â mi,Duw dy ddaioni rhag llaw,Ac yn dragywydd imi dod:na wrthod waith dy ddwylaw.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 138