Hen Destament

Salm 135:6-16 Salmau Cân 1621 (SC)

6. Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,yn uchder nef eithafon:Ar ddaiar, ac yn y mor cau,a holl ddyfnderau’r digion.

7. O eithaf daiar cyfyd tarth,daw’r mellt o bobparth hwythau,Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,a godynt o’i drysorau.

8. Yn nhir yr Aipht dynion, a da,â llawer pla y trawodd,Cyntaf-anedig o bob un,â’i law ei hun a laddodd.

9. I’th ganol di, o Aipht greulon,rhoes Duw arwyddion rhyfedd:Ar Pharo a’i holl weision i gyd:dug drwy’r holl fyd orfoledd.

10. O nerth ei fraich efe a wnaeth,lawer cenhedlaeth feirwon:A lladdodd lawer yr un weddo ben brenhinoedd cryfion.

11. Sef o’r Amoriaid Sehon fawr,ac Og, y cawr o Basan:A’r un ddinystriad arnynt aeth,a holl frenhiniaeth Canan.

12. A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,gyd â’i holl fywyd bydol,I Israel i roi a wnaethyn etifeddiaeth nerthol.

13. Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,a bery yn dragywydd,Ac o genedl i genedl aethdy goffadwriaeth, lywydd.

14. Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,yr Arglwydd cadarn cyfion,Ac yn ei holl lywodraeth bur,bydd dostur wrth ei weision.

15. Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,a dyfais dyn anffyddlon,O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,o hil cenhedlaeth weigion.

16. O waith dyn, genau rhwth y sydd,heb ddim llyferydd iddyn:Ac mae llun llygaid mawr ar led,a’r rhai’n heb weled gronyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 135