12. A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,gyd â’i holl fywyd bydol,I Israel i roi a wnaethyn etifeddiaeth nerthol.
13. Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,a bery yn dragywydd,Ac o genedl i genedl aethdy goffadwriaeth, lywydd.
14. Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,yr Arglwydd cadarn cyfion,Ac yn ei holl lywodraeth bur,bydd dostur wrth ei weision.
15. Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,a dyfais dyn anffyddlon,O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,o hil cenhedlaeth weigion.
16. O waith dyn, genau rhwth y sydd,heb ddim llyferydd iddyn:Ac mae llun llygaid mawr ar led,a’r rhai’n heb weled gronyn.
17. Drwy glust dynion sydd i bob un,heb glywed mymryn etto.Eu safn yn ehang, ac ni chaidna chwyth, nag enaid yntho.