Hen Destament

Salm 135:11-19 Salmau Cân 1621 (SC)

11. Sef o’r Amoriaid Sehon fawr,ac Og, y cawr o Basan:A’r un ddinystriad arnynt aeth,a holl frenhiniaeth Canan.

12. A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,gyd â’i holl fywyd bydol,I Israel i roi a wnaethyn etifeddiaeth nerthol.

13. Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,a bery yn dragywydd,Ac o genedl i genedl aethdy goffadwriaeth, lywydd.

14. Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,yr Arglwydd cadarn cyfion,Ac yn ei holl lywodraeth bur,bydd dostur wrth ei weision.

15. Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,a dyfais dyn anffyddlon,O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,o hil cenhedlaeth weigion.

16. O waith dyn, genau rhwth y sydd,heb ddim llyferydd iddyn:Ac mae llun llygaid mawr ar led,a’r rhai’n heb weled gronyn.

17. Drwy glust dynion sydd i bob un,heb glywed mymryn etto.Eu safn yn ehang, ac ni chaidna chwyth, nag enaid yntho.

18. Un fodd a’r delwau fydd y rhafa’i gwnelai hwynt â’i dwylo.Ac nid yw well nâ’r rhai’n yr un,ynthyn a ymddirietto.

19. Ty Israel na choeliwch chwi:ty Aron, Lefi ufydd,

Darllenwch bennod gyflawn Salm 135