1. O molwch enw’r Arglwydd nef,ei weision ef moliennwch,
2. Y rhai a saif iw dy a’i byrth,i’n Duw a’i fawrwyrth cenwch.
3. Molwch yr Arglwydd, cans da yw,clod i’r Ior a berthyn:Cenwch ei glod dros yr holl fyd,a hyfryd yw y destyn.
4. Oblegid yr Arglwydd, a’i nawdd,ef a etholawdd Jaco,Ac Israel, iw mysg y trig,yn deulu unic iddo.
5. Cans mawr yw’r Arglwydd yn ei lys,mi a wn yn hysbys hynny:Ym mhell uwchlaw’r holl dduwiau mân,mae’r Arglwydd glân a’i allu.
6. Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,yn uchder nef eithafon:Ar ddaiar, ac yn y mor cau,a holl ddyfnderau’r digion.
7. O eithaf daiar cyfyd tarth,daw’r mellt o bobparth hwythau,Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,a godynt o’i drysorau.