98. Gwnaethost ti â’th orchmynion iach,yn ddoethach nâ’m gelynion:Cans gyd â mi yn dragywydd,y bydd dy holl orchmynion.
99. Gwnaethost fi’n ddoethach (o Dduw Ion)nâ’r athrawon a’m dyscynt:Oblegid fy myfyrdod mau,dy dystiolaethau oeddynt.
100. Am gadw o honof dy ddeddf di,mwy nâ’m rhieni delldais:
101. Rhag drwg-lwybr, fel y cadwn d’air,fy nrhaed yn ddiwair cedwais.
102. Rhag dy farnau ni chiliais i,cans ti a’m dysgaist ynthynt.
103. Mor beraidd gennif d’eiriau iach,nâ’r mel melusach ydynt.
104. O Arglwydd â’th orchmynion di,y gwnaethost fi yn bwyllawg:Am hynny’r ydwyf yn casaupob cyfryw lwybrau geuawg.
105. Dy air i’m traed i llusern yw,a llewych gwiw i’m llwybrau.
106. Tyngais, a chyflowni a wnaf,y cadwaf dy lân ddeddfau.
107. Cystuddiwydd fi’n fawr: Arglwydd da:bywha fi’n ôl d’addewyd:
108. Bodloner di, o Arglwydd mau,ag offrwm genau diwyd:A dysg i’m dy holl farnau draw,