Hen Destament

Salm 119:79-91 Salmau Cân 1621 (SC)

79. Y rhai o Dduw a’th ofnant di,troer y rhei’ni attaf:A’r rhai adwaenant er eu maeth,dystiolaeth y Goruchaf.

80. Bydded fy nghalon yn berffaith,yn dy lân gyfraith Arglwydd,Fel nas gorchuddier yn y byd,fy wyneb-pryd a gwradwydd.

81. Gan ddisgwyl am dy iechyd di,mae f’enaid i mewn diffigYn gwilied beunydd wrth dy air,o Arglwydd cair ff’n ddiddig.

82. Y mae fy llygaid mewn pall ddrychyn edrych am d’addewyd,Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)i’m ddiddeni â’th iechyd?

83. Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:cofiais dy eiriau cyfion.

84. Pa hyd yw amser dy wâs di?Pa bryd y bernir trowsion?

85. Cleddiai’r beilchion i’m byllau: hynsy’n erbyn dy gyfreithiau.

86. Gwirionedd yw d’orchmynion di,cymmorth fi rhag cam faglau.

87. Braidd na’m difent o’r tir ar gais:Ond glynais wrth d’orchmynion.

88. Bywha fi Dduw, i gadw ’yn glau,dystiolaeth d’enau ffyddlon.

89. Byth yn y nef y pery d’air,o Dduw cair dy wirionedd.O oes i oes: sicrhe’ist y tirna siglir mo’i amgylchedd.

90. Safant byth wrth dy farnau di,maent i ti’n weision ufudd.

91. Oni bai fod dy ddeddf yn dda,i’n difa buasai gystudd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119