Hen Destament

Salm 119:74-80 Salmau Cân 1621 (SC)

74. Y sawl a’th ofnant gwelant hyn,bydd llawen genthyn weled:Am fod fy ngobaith yn dy air,Yr hwn a gair ei glywed.

75. Duw gwn fod dy farnau’n deilwng,a’m gostwng i yn ffyddlon:

76. Dod nawdd er cyssur i’m dy was,o’th ras a’th addewidion.

77. Dod i’m dy nawdd, a byddaf byw,dy gyfraith yw yn felys.

78. Gwradwydder beilch a’m plyg ar gam,myfyriaf am d’ewyllys.

79. Y rhai o Dduw a’th ofnant di,troer y rhei’ni attaf:A’r rhai adwaenant er eu maeth,dystiolaeth y Goruchaf.

80. Bydded fy nghalon yn berffaith,yn dy lân gyfraith Arglwydd,Fel nas gorchuddier yn y byd,fy wyneb-pryd a gwradwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119