Hen Destament

Salm 119:64-79 Salmau Cân 1621 (SC)

64. Dy nawdd drwy’r tir sy lawn i’n mysg,Duw dysg i mi dy ddeddfau.

65. Arglwydd gwnaethost yn dda a’th was,yn ol dy râs yn addo.

66. Dysg i’m ddwall dy air yn iawn,’rwy’n credu’n gyflawn yntho.

67. Cyn fy ngostwug euthym ar gam,yn awr wyf ddinam eilwaith.

68. Da iawn a graslawn ydwyt ti,o dysg i mi dy gyfraith.

69. Dy air er beilch yn clyttio ffug,â’m calon orug cadwaf.

70. Breision ynt hwy, er hyn myfi,dy gyfraith di a hoffaf.

71. Fy mlinder maith da iawn i’m fu,i ddysgu dy ffatusoedd.

72. Gwell fu i’m gyfraith d’enau glânnag aur ac arian filoedd.

73. A’th ddwylaw gwnaethost fi dy hun,a rhoist i’m lun yn berffaith:O par i’m ddeall dy air di:A dyscaf fi dy gyfraith.

74. Y sawl a’th ofnant gwelant hyn,bydd llawen genthyn weled:Am fod fy ngobaith yn dy air,Yr hwn a gair ei glywed.

75. Duw gwn fod dy farnau’n deilwng,a’m gostwng i yn ffyddlon:

76. Dod nawdd er cyssur i’m dy was,o’th ras a’th addewidion.

77. Dod i’m dy nawdd, a byddaf byw,dy gyfraith yw yn felys.

78. Gwradwydder beilch a’m plyg ar gam,myfyriaf am d’ewyllys.

79. Y rhai o Dduw a’th ofnant di,troer y rhei’ni attaf:A’r rhai adwaenant er eu maeth,dystiolaeth y Goruchaf.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119