Hen Destament

Salm 119:49-68 Salmau Cân 1621 (SC)

49. Cofia i’th was dy air a’th raith,lle y rhois fy ngobaith arno.

50. Yn d’air mae ’nghysur, Ior, i gyd,yr hwn mae’ mywyd yntho.

51. Er gwatwar beilch ni throis ychwaithoddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.

52. Cofiais (o Dduw) dy ddeddf erioed,yn honno rhoed i’m gysur.

53. Y trowsion a ofnais yn faith,sy’n torri’r gyfraith eiddod’.

54. O’th ddeddf y cenais gerdd yn hy,yn nhy fy mhererindod.

55. Cofiais d’enw (fy Ion) bob nos,o serch i’th ddiddos gyfraith.

56. Cefais hynny am gadw o’m brondy ddeddf: sef hon sydd berffaith.

57. Ti Arglwydd wyt i mi yn rhan,ar d’air mae f’amcan innau,

58. Gweddiais am nawdd gar dy frono’m calon yn ôl d’eiriau.

59. Meddyliais am ffyrdd dy ddeddfau,a throis fy nghamrau attat.

60. Dy eirchion ar frys a gedwais,nid oedais ddim o honynt.

61. Er i draws dorf fy’ speilio i,dy gyfraith ni anghofiais.

62. Gan godi ganol nos yn frau,dy farnau a gyffesais.

63. Cyfaill wyf i’r rhai a’th ofnant,ac a gadwant dy eiriau.

64. Dy nawdd drwy’r tir sy lawn i’n mysg,Duw dysg i mi dy ddeddfau.

65. Arglwydd gwnaethost yn dda a’th was,yn ol dy râs yn addo.

66. Dysg i’m ddwall dy air yn iawn,’rwy’n credu’n gyflawn yntho.

67. Cyn fy ngostwug euthym ar gam,yn awr wyf ddinam eilwaith.

68. Da iawn a graslawn ydwyt ti,o dysg i mi dy gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119