34. O par i’m ddeall y ddeddf hon,o’m calon mi a’i cyflownaf.
35. Par i’m fynd lwybr dy ddeddf ar frys,hyn yw fy ’wyllys deilwng;
36. A’m calon at ddystiolaeth dda,nid at gybydd-dra gostwng.
37. Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,bywha fi’i gael dy ffordd di.
38. Cyflowna d’air â mi dy was,yna caf ras i’th ofni.
39. Ofnais warth, o tro heibio hon,da yw d’orchymynion tyner.
40. Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,gwna ym fyw o’th gyfiownder.
41. Arglwydd dod dy drugaredd ym,a hyn o rym d’addewid.