Hen Destament

Salm 119:28-40 Salmau Cân 1621 (SC)

28. Gan ofid f’enaid fu ar dawdd,a’th air gwnai ’n hawdd fi’n bybyr,

29. O’th nawdd oddiwrthif tyn ffyrdd gau,a dysg y’m ddeddfau crefydd.

30. Dewisais ffordd gwirionedd, honsydd ger fy mron i beunydd.

31. Glynais wrth dy air, o Arglwydd,o lludd i’m wradwydd digllon.

32. Yn dy ddeddfau fy rhediad fyddpan wneych yn rhydd fy nghalon.

33. Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,dros f’einioes hi a gadwaf.

34. O par i’m ddeall y ddeddf hon,o’m calon mi a’i cyflownaf.

35. Par i’m fynd lwybr dy ddeddf ar frys,hyn yw fy ’wyllys deilwng;

36. A’m calon at ddystiolaeth dda,nid at gybydd-dra gostwng.

37. Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,bywha fi’i gael dy ffordd di.

38. Cyflowna d’air â mi dy was,yna caf ras i’th ofni.

39. Ofnais warth, o tro heibio hon,da yw d’orchymynion tyner.

40. Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,gwna ym fyw o’th gyfiownder.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119