Hen Destament

Salm 119:166-176 Salmau Cân 1621 (SC)

166. Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,gan wneuthyd dy orchymmyn.

167. Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,a hi yn fawr a hoffais.

168. Am fod fy llwybrau gar dy fron,d’orchmynion nid anghofiais.

169. O’th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,dysg imi ddeall d’eiriau.

170. Gwared fi’n ol d’ymadrodd rhâd,del attad fy ngweddiau.

171. Dy fawl a draetha’ ngenau’n wychpan ddysgych ym’ dy ddeddfau.

172. Datgan fy nhafod d’air yn rhwydd,herwydd dy gyfiawn eiriau.

173. Cymhorthed dy law fi ar gais,Dewisais dy orchmynion.

174. Cerais dy iechyd, a’th ddeddf syddlawenydd mawr i’m calon.

175. Bo f’enaid byw, a mawl it rhoed:dy farn boed i’m amddiffyn.

176. Crwydrais fel oen, dy was o cais,cans cofiais dy orchymmyn.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119