Hen Destament

Salm 119:162-171 Salmau Cân 1621 (SC)

162. Oblegid d’air wyf lawen iawn,fel pe cawn dlysau mowrion.

163. Celwydd ffieidd-dra a gasais,a hoffais dy gyfreithiau:

164. Saith waith bob dydd y rhof yt glod,am fod yn dda dy farnau.

165. Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,drwg nis goddiwedd mhonyn.

166. Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,gan wneuthyd dy orchymmyn.

167. Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,a hi yn fawr a hoffais.

168. Am fod fy llwybrau gar dy fron,d’orchmynion nid anghofiais.

169. O’th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,dysg imi ddeall d’eiriau.

170. Gwared fi’n ol d’ymadrodd rhâd,del attad fy ngweddiau.

171. Dy fawl a draetha’ ngenau’n wychpan ddysgych ym’ dy ddeddfau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119