Hen Destament

Salm 119:16-27 Salmau Cân 1621 (SC)

16. Mor ddirgrif ymy yw dy air,o’m cof nis cair un gronyn.

17. Bydd dda i’th wâs, a byw a wna,a’th air a gadwa’n berffaith:

18. A’m llygaid egor di ar lled,i weled rhin dy gyfraith.

19. Dieithr ydwyfi’n y tir,dy ddeddf wir na chudd rhagor.

20. O wir awydd i’r gyfraith hon,mae’n don fy enaid ynof.

21. Curaist feilch: daw dy felltith dii’r rhai sy’n torri d’eirchion.

22. Tro oddiwrthif fefl ar gais,cans cadwais dy orchmynion:

23. Er i swyddogion roi barn gas,rhoes dy wâs ei fyfyrdod

24. Yn dy ddeddf, hon sydd ym i gydyn gyngor hyfryd ynod.

25. F’enaid ymron llwch y bedd yw:o’th air gwna fi’n fyw eilwaith:

26. Mynegais fy ffyrdd clywaist fi,o dysg i mi dy gyfraith.

27. Pâr i mi ddeall ffordd dy air,ar hwnnw cair fy myfyr.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119