Hen Destament

Salm 119:154-161 Salmau Cân 1621 (SC)

154. Dadleu fy nadl, rhyddha fi’n rhodd,yn ol ymadrodd d’enau.

155. Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn,oddiwrth anghyfiawn ddynion:Am nad ydynt yn ceisio’n glau,mo llwybr dy ddeddfau union.

156. Dy drugaredd Arglwydd aml yw,gwna i’m fyw’n ol dy farnau.

157. Llawer sy’m herlid, r’wyf er hyn,yn dylyn dy lân ddeddfau.

158. Gwelais y traws, a gresyn fu,iddynt ddirmygu d’eiriau.

159. Hoffais dy ddeddf, bywha fi’ Arglwydd,herwydd dy drugareddau.

160. Dechrau dy air gwirionedd yw,o Arglwydd Dduw y llywydd:A'th gyfiawn farnedigaethau,sydd yn parhau’n dragywydd.

161. Y cryf a’r gam f’erlid a wnai,rhag d’ofn y crynai’ nghalon.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119