Hen Destament

Salm 119:152-156 Salmau Cân 1621 (SC)

152. Gwyddwn fod dy dystiolaethau,gwedi eu sicrhau yn gryfion.

153. Gwel fy nghystudd, gwared ar gais,cans cofiais dy gyfreithiau.

154. Dadleu fy nadl, rhyddha fi’n rhodd,yn ol ymadrodd d’enau.

155. Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn,oddiwrth anghyfiawn ddynion:Am nad ydynt yn ceisio’n glau,mo llwybr dy ddeddfau union.

156. Dy drugaredd Arglwydd aml yw,gwna i’m fyw’n ol dy farnau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119