143. Adfyd cefais, a chystudd maith:dy gyfraith yw ’nigrifwch.
144. Gwna i’m ddeall cyfiownder gwiw:a byddaf fyw mewn heddwch.
145. Llefais a’m holl galon, o clyw,a’th ddeddfau Duw a gadwaf,
146. Arna ti llefais, achub fi,a’th lwybrau di a rodiaf.
147. Gwaeddais, achubais flaen y dydd,wrth d’air yn ufydd gwiliais.
148. Deffroe fy llygaid ganol nos,o achos d’air a hoffais.
149. Clyw fi’n ol dy drugaredd dda,bywha fi’ yn ol dy farnau.
150. Arnaf rhai sceler a nessânt:troseddant dy gyfreithiau.
151. Tithau bydd agos: Arglwydd Dduw:gwirionedd yw d’orchmynion.