137. Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw)ac uniawn yw dy farnau.
138. Dy dystiolaethau yr un wedd,ynt mewn gwirionedd hwythau.
139. Fy serch i’th air a’m difaodd,pan anghofiodd y gelyn.
140. D’ymadrodd purwyd drwy fawr ras,hoffodd dy wâs d’orchymyn.
141. Nid anghofiais dy gyfrath lân,er bod yn fychan f’agwedd.
142. Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd:a’th ddeddf di fydd wirionedd.
143. Adfyd cefais, a chystudd maith:dy gyfraith yw ’nigrifwch.
144. Gwna i’m ddeall cyfiownder gwiw:a byddaf fyw mewn heddwch.