13. Dy gyfiawn feirn, a’r gwir air tau,a mawl gwefusau traethais.
14. A’th dystiolaethau di i gyd,uwch holl dda’r byd a hoffais.
15. Dy ddeddf fy myfyr yw a’m drych,dy ffyrdd ’r wy’n edrych arnyn.
16. Mor ddirgrif ymy yw dy air,o’m cof nis cair un gronyn.
17. Bydd dda i’th wâs, a byw a wna,a’th air a gadwa’n berffaith:
18. A’m llygaid egor di ar lled,i weled rhin dy gyfraith.
19. Dieithr ydwyfi’n y tir,dy ddeddf wir na chudd rhagor.
20. O wir awydd i’r gyfraith hon,mae’n don fy enaid ynof.
21. Curaist feilch: daw dy felltith dii’r rhai sy’n torri d’eirchion.
22. Tro oddiwrthif fefl ar gais,cans cadwais dy orchmynion:
23. Er i swyddogion roi barn gas,rhoes dy wâs ei fyfyrdod
24. Yn dy ddeddf, hon sydd ym i gydyn gyngor hyfryd ynod.
25. F’enaid ymron llwch y bedd yw:o’th air gwna fi’n fyw eilwaith: