Hen Destament

Salm 119:118-136 Salmau Cân 1621 (SC)

118. Sethraist o Arglwydd, yr holl rai,a ai oddiwrth dy ddeddfau:Am mai oferedd gar dy fronoedd eu dychmygion hwythau.

119. Difethaist holl rai drwg y tir,fel y dyfethir sothach.Am hyn dy dystiolaethau di,a gerais i’n anwylach.

120. O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,fy gnhawd am cig a synnodd.Rhag dy farnedigaethau di,fy yspryd i a ofnodd.

121. Barn a thrugaredd a wneuthym,na ddod fi ym caseion:

122. O Arglwydd, dysg ddaioni i’th was,achub rhag cas y beilchion.

123. Pallai’n golwg yn disgwyl llawniechyd o’th gyfiawn eiriau.

124. Yn ol trugaredd â’th was gwna,dysg imi’n dda dy ddeddfau.

125. Dy was wyf fi, deall i’m dod,i wybod dy amodau.

126. Madws it (Arglwydd) roddi barn,torrwyd dy gadarn ddeddfau.

127. Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,pe rhon a’i goethi yn berffaith.

128. Yn uniawn oll y cyfrifais,caseais lwybrau diffaith.

129. Rhyfedd yw dy dystiolaethau,fy enaid innau a’i cadwodd.

130. Egoriad d’air yn olau y caid,i weiniaid pwll a ddysgodd.

131. Dyheais gan chwant (o Dduw Ion)i’th lân orchmynion croyw.

132. Edrych di arnaf, megis ary rhai a gâr dy enw.

133. Yn ol d’air cyfarwydda ’nrhoed,anwiredd na ddoed arnaf.

134. O gwared fi rhag trowsedd dyn,a’th orchymmyn a gadwaf:

135. Llewycha d’wyneb ar dy was:dysg imi flas dy ddeddfau.

136. Dagrau om’ golwg llifo’ a wnânt,nes cadwant dy gyfreithiau.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 119