1. Pob cyfryw ddyn y sydd a’i daithyn berffaith, mae fe’n ddedwydd,Y rhai’n fucheddol a rodianYnghyfraith lân yr Arglwydd.
2. Y rhai i gyd gwynfyd a gânt,a gadwant ei orchmynion:Ac a’i ceisiant hwy yn ddilys, holl ewyllys calon.
3. Diau yw nad â y rhai hyn,i galyn llwybrau gwammal,
4. Ond cadw dy air (a erchaist ynn)a dilyn hyn yn ddyfal.
5. Och fi na chawn unioni’n glau,fy llwybrau at dy ddeddfod:
6. Byth ni’m gwradwyddid y modd hwn,tra cadwn dy gyfammod.
7. Mi a’th glodforaf di er neb,ac mewn uniondeb calon:Pan ddysgwyf adnabod dy farn,sy gadarn, ac sy gyfion.