20. Porth yr Arglwydd fal dyma fo,ânt iddo’r rhai cyfiownaf.
21. Minnau a’th folaf yn dy dy,o herwydd ytty ’nghlywed,Yno y canaf nefol glodyt, am dy fod i’m gwared.
22. Y maen sy ben congl-faen i ni,a ddarfu i’r seiri ei wrthod.
23. O’r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn,sy gan ddyn yn rhyfeddod.
24. Yr Arglwydd a’i gwnaeth, dyma’r dydd,er mawr lawenydd ynny,Yntho cymrwn orfoledd llawn,ymlawenhawn am hynny.
25. Attolwg Arglwydd y pryd hynyr ym yn erfyn seibiant.Adolwyn Arglwydd Dduw pâr’ yn’y pryd hyn gaffael llwyddiant.
26. Bendigedig yw y sawl a ddelyn enw yr uchel Arglwydd.O dy Dduw bendithiasom chwi,drwy weddi a sancteiddrwydd.
27. Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,rhoes i’n oleuni ragor.Deliwch yr oen a rhowch yn chwyrnyn rhwym wrth gyrn yr allor.
28. Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,am hyn tydi a folaf:(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)a thydi a ddyrchafaf.
29. Molwch yr Arglwydd, cans da ywmoliannu Duw y llywydd,O herwydd ei drugaredd fry,a bery yn dragywydd.