11. Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,mae pob dyn yn gelwyddog,
12. Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,am dy ddaioni cefnog?
13. Mi a gymeraf, gan roi mawl,y phiawl iechydwriaeth,Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,ar enw yr Arglwydd bennaeth.
14. I’r Arglwydd talaf yn forau,fy addunedau ffyddlon,Y myd hyn o flaen ei holl lu,y modd y bu’n fy nghalon.
15. Marwolaeth ei sainct gwerthfawr ywyngolwg Duw: O cenfydd,Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,mab dy forwynig ufydd.
16. Datodaist fy rhwymau yn rhydd,fy offrwm fydd dy foliant.
17. Enw’r Arglwydd nid â o’m co,i hwnnw bo gogoniant.
18. I’r Arglwydd bellach tala’n fraufy addunedau cyfion.
19. Ynghaer Salem dy sanctaidd dy,o flaen dy deulu ffyddlon.