1. Da gennif wrando’ or Arglwydd nef,ar lais fy llef a’m gweddi:
2. Am iddo fy nghlywed i’n hawdd,byth archaf ei nawdd imi.
3. Mae maglau angau i’m cynllwyn,ym mron fy nwyn i’m beddrod:
4. Cefais ing. Ond galwaf fy Neri’m hoes, moes dyner gymmod.
5. Cyfion yw’r Ion trugarog iawn,ein Duw fy lawn o nodded.
6. Duw a geidw’r gwirion: bum i,mewn cyni, daeth i’m gwared.
7. O f’enaid dadymchwel o’r llwch:dyrd i’th lonyddwch bellach:Am i’r Arglwydd fod i ti’n dda,saf i’th orphwysfa bauach.